Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mawrth, 6
Chwefror 2024
Amser y
cyfarfod: 13.30
------
Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
(30 munud)
Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
(45 munud)
(30 munud)
(0 munud)
(120 munud)
NDM8473 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 20.12:
Yn nodi'r Gyllideb Ddrafft ar gyfer blwyddyn ariannol 2024-25 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ar 19 Rhagfyr 2023.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu bod Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2024-25 yn methu â chyflawni blaenoriaethau pobl Cymru.
Dogfennau Ategol
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
Adroddiad Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol
Adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai
Adroddiad Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd, a Seilwaith
Adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
Adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig
Adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol
NNDM8481 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig body Senedd, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:
Yn atal Rheol Sefydlog 12.20(i), 12.22 (i) a’r rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy’n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu’r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i NNDM8480 gael ei ystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth, 6 Chwefror 2024.
(60 munud)
NNDM8480 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn credu bod dyfodol addawol i waith creu dur mewn ffwrneisiau chwyth yng Nghymru fel rhan o bontio teg sy’n cefnogi economi Gymreig gryfach ac sydd hefyd yn diogelu ased sy’n perthyn i’r DU.
2. Yn cefnogi’r achos dros drafodaethau pellach a fydd yn galluogi proses bontio hirach i ddiogelu swyddi er mwyn creu dyfodol uchelgeisiol a gwyrddach ar draws cyfleusterau Tata yng Nghymru.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu'r £500 miliwn gan Lywodraeth y DU i sicrhau dyfodol y gwaith cynhyrchu dur ym Mhort Talbot.
Gwelliant 2 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi'r gronfa bontio gwerth £100 miliwn gydag £80 miliwn gan Lywodraeth y DU ac £20 miliwn gan Tata Steel Ltd.
Gwelliant 3 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ailflaenoriaethu cyllid ar unwaith i gefnogi gweithwyr dur.
(60 munud)
NDM8475 Mick Antoniw (Pontypridd)
Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:
Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol y Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru)
Gosodwyd y Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Senedd ar 2 Hydref 2023;
Gosodwyd adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai ar y Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) gerbron y Senedd ar 26 Ionawr 2024.
Dogfennau Ategol
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
NDM8474 Mick Antoniw (Pontypridd)
Cynnig bod Senedd Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mercher, 7 Chwefror 2024